Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Dydd Mawrth 13 Mai 2014 a dydd Mercher 14 Mai 2014

Dydd Mawrth 20 Mai 2014 a dydd Mercher 21 Mai 2014

Toriad: Dydd Llun 26 Mai 2014 – Dydd Sul 1 Mehefin 2014

Dydd Mawrth 3 Mehefin 2014 a dydd Mercher 4 Mehefin 2014

***********************************************************************

Dydd Mawrth 13 Mai 2014

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Cydweithio mewn Partneriaeth â Chymdeithasau Tai (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Strategaeth Ddŵr i Gymru (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun gweithredu strategol morol a physgodfeydd (30 munud)

·         Cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Dadreoleiddio (15 munud)

 

Dydd Mercher 14 Mai 2014

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth (45 munud)

Busnes y Cynulliad

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         NNDM5502

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cynnig yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer Bil Iechyd y Cyhoedd i wahardd y defnydd o sigaréts electronig mewn mannau cyhoeddus caeedig a gweithleoedd yng Nghymru.

2. Yn nodi bod 2.1 miliwn o oedolion yn y DU, yn ôl amcangyfrif, yn defnyddio sigaréts electronig ar hyn o bryd.

3. Yn nodi bod canllawiau iechyd y cyhoedd oddi wrth y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ‘Tobacco: harm-reduction approaches to smoking’ yn cefnogi’r defnydd o gynnyrch trwyddedig sy’n cynnwys nicotin i helpu pobl i ysmygu llai neu i roi'r gorau i ysmygu.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno’r dystiolaeth sy’n sail i’r cynigion ar sigaréts electronig, er mwyn darparu eglurder ar gyfer cyfiawnhau'r cynigion hyn ym Mil Iechyd y Cyhoedd.

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer - William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 20 Mai 2014

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Cwestiynau i'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Cyflwyno Bil Addysg Uwch (Cymru) (60 munud)

·         Gorchymyn Rhestrau Ardrethu (Gohirio Gwneud Rhestrau) (Cymru) 2014 (15 munud)

·         Dadl: Mynd i'r Afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb – Fframwaith Gweithredu (60 munud)

 

Dydd Mercher 21 Mai 2014

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)

·         Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Lefelau Cyfranogiad mewn Chwaraeon (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer - Aled Roberts (Gogledd Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 3 Mehefin 2014

 

Busnes y Cynulliad

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

 

Dydd Mercher 4 Mehefin 2014

 

Busnes y Llywodraeth

 

Busnes y Cynulliad

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei Ymchwiliad i rôl Cymru ym mhroses benderfynu’r UE (60 munud)

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Dadl Fer - Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) (30 munud)